Hedd
Wyn
DS Pan byddwch yn clicio ar y cysylltau, bydd y lluniau yn agor mewn ffenestr newydd. Os nad ydych yn gallu weld y llun, efallai mae'r ffenestr priodol yn cuddio tu ôl y ffenestr yn y blaen - bydd rhaid i chi glicio ar y ffenestr gudd i'w chael yn y blaen.
Hedd Wyn (Paul Turner, 1992) oedd y ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei henwebu am Oscar. Mae'n adrodd hanes trist Ellis Evans, bardd o deulu amaethyddol yn Nhrawsfynydd, gogledd Cymru a gafodd ei orfodi i ymuno â'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd Gadair Eisteddfod Penbedw wedi ei farwolaeth, ar ôl cael ei ladd ar faes y gad yn ystod y rhyfel.
Themâu
Mae themâu amlwg i'r ffilm: y cyferbyniadau rhwng y Cymry a'r Saeson (o ran iaith a chenedligrwydd), rhwng rhyfel a heddwch, rhwng y teulu a'r fyddin, y fferm a maes y gad, y werin a Chymry Cymraeg a oedd wedi cael addysg. Symbol sy'n codi dro ar ôl tro yw Arianrhod, duwies Geltaidd y lleuad, sy'n cael ei dangos fel menyw mewn feil ddu. Hi yw awen Elis, a gwelwn ar y diwedd ei bod hi'n gyfuniad o'r menywod mae e wedi eu caru.
Narratif a strwythur
Mae'r ffilm yn cychwyn a gorffen gyda chadeirio'r bardd marw yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw (Birkenhead). Yna rydym yn dilyn ei daith drwy fywyd, o'i lwyddiant cyntaf yn Eisteddfod Pwllheli, drwy ddyfodiad y rhyfel a listio yn y fyddin, hyd at ei farwolaeth. Mae'r stori yn aml yn fflachio ymlaen at farwolaeth Ellis ar faes y gad, gan gynnwys darnau o'i gerddi.
Iaith ffilm yn Hedd Wyn
Rwyf wedi canolbwyntio ar dechnegau sy'n cael eu defnyddio ar ddechrau'r ffilm ac yn ystod yr ugain munud olaf.
Dilyniant agoriadol
Montage o saethiadau o gadair Penbedw yw'r dilyniant cyntaf; mae'r manylion hyn - hen bren, symbolau Celtaidd - ynghyd â'r gerddoriaeth yn cyfleu ymdeimlad o draddodiad. Clywn llais yn gofyn i'r ennillydd sefyll cyn i ni dorru i Elis yn marw ar faes y gad, ac oddi yno i olygfa ar y fferm deuluol lle mae Elis yn derbyn llythyr i ddweud wrtho ei fod wedi ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Pwllheli. Mae'r olygfa ar y fferm ar ddechrau'r ffilm yn cael ei hailadrodd ar ddiwedd y ffilm, ond y tro yma, tad Elis sy'n clywed fod ei fab marw wedi ennill y gadair. Cymharwch y goleuo a'r lliw yn y ddwy olygfa yma: mae'r gyntaf yn defnyddio goleuo cynnes i greu golygfa adeg-cynhaeaf baradwysaidd, mae'r ail yn lasach ac yn oerach oherwydd tristwch yr olygfa.
Symud i fyny i'r ffrynt liw nos
(yn dechrau rhyw 20 munud o ddiwedd y ffilm)
Gwelwn unigrwydd y milwyr mewn amgylchedd gerwin a gelyniaethus. Mae'r goleuo'n mynd o goch bygythiol i las oeraidd a digroeso. Mae'r milwyr yn cael eu troi'n gydrannau dienw yn y peiriant milwrol drwy saethu â lens teleffoto sy'n gwastatáu persbectif a gwneud i bawb edrych yr un maint, saethiad ongl isel gyda'r camera'n edrych i fyny at y milwyr sy'n ymddangos mewn silwét yn unig, golau ôl a goleuo cyferbyniad isel. Cawn ymdeimlad o realaeth o'r saethiadau lle mae camera llaw yn dilyn y milwyr neu'n mynd o'u blaenau. Mae'r saethiadau yma yn rhai ongl-lydan hefyd fel ein bod ninnau'n teimlo'n agos iawn at y milwyr. Yn nes ymlaen, mae delweddau'n toddi i'w gilydd tra bod swn real (neu 'ddiegetig') y frwydr yn pylu, gyda chanu yn cymryd lle hynny (mewn Almaeneg, o waith Mahler, Cân y Ddaear). Mae hyn yn cynyddu effaith symbolaidd ac emosiynol y dilyniant. (Ceisiwch chwarae'r dilyniant heb gerddoriaeth i weld y gwahaniaeth.)
Mae'r dilyniant yma yn cynnwys saethiadau cledru, lle mae'r camera'n symud ar hyd y rheng o filwyr, a saethiadau teleffoto, sy'n dangos milwyr dienw yn disgwyl eu tynged mewn persbectif wedi ei wastatâu. Yna, byddwn yn symud i mewn at y cymeriadau rydym yn eu nabod, gan ddefnyddio saethiadau agos iawn fel y gallwn weld yr olwg sydd ar eu hwynebau. Gallwch hefyd edrych ar y ffordd mae iaith y corff yn cael ei defnyddio i gyfleu cymeriad: dangosir y rhingyll o Sais mewn saethiad agos canolog (o'i frest i fyny) er mwyn i ni allu gweld ei agwedd 'gung-ho'.
Ar faes y gad
Wedi i'r milwyr fynd 'dros y top' mae'r ffilm yn fwriadol yn torri un o 'reolau' golygu i ddangos dryswch y frwydr: mae cyfeiriad y symud yn newid o hyd gyda'r milwyr weithiau'n mynd o'r dde i'r chwith, weithiau o'r chwith i'r dde. Weithiau bydd y camera'n cledru, gan ddilyn y milwyr; weithiau bydd y camera'n aros yn llonydd. Mae un saethiad llydan nodedig o filwyr pitw mewn tirlun gelyniaethus islaw awyr sinistr; yma, mae'r sain diegetig yn lleihau, a chlywn cerddoriaeth fygythiol. Mae'r olygfa lle mae Ellis a'i gymdeithion yn gweld yr Almaenwyr marw yn defnyddio saethiad ymateb clasurol, lle gwelwn yr ymateb cyn gweld beth mae'r cymeriad yn ymateb iddo. Mae hyn yn creu tensiwn. Caiff hyd yn oed y rhingyll digydymdeimlad ei ddangos mewn saethiad agos er mwyn i ni weld ei ymateb syfrdan.
Ellis yn yr ysbyty maes
Mae popeth yn yr ysbyty maes wedi ei fframio'n dynn, gyda lens teleffoto a ffocws bas (h.y. mae'r cefndir yn aneglur). Mae hyn yn cyfleu fod byd Elis yn cau i mewn. Mae'r goleuo'n oer a didostur. Mewn cyferbyniad, pan welwn ei gadeirio olaf, mae'r goleuni'n hynod gyfoethog a chynnes. Rydym yn ei weld mewn ffocws meddal (mae ymylon y saethiad yn aneglur, ac mae hyn yn cael ei ddefnyddio fel arfer ar gyfer dilyniant breuddwyd) fel y gwyddom mai yn ei ddychymyg mae'r peth yn digwydd.
Hedd Wyn: Tasgau myfyrwyr
1 Crynhowch hanes Hedd Wyn mewn 100 o eiriau.
2 Pam mae'r ffilm yn defnyddio fflachiadau ymlaen?
3 Pryd, a pham, mae cerddi Elis yn cael eu defnyddio?
4 Ble, a pham, mae hiwmor yn cael ei ddefnyddio yn y ffilm yma?
5 Pa symbolau neu themâu sy'n digwydd dro ar ôl tro drwy gydol y ffilm?
6 Pwy ydy Arianrhod?
7 Dyma rai o'r gwrthgyferbyniadau allweddol yn Hedd Wyn:
* Cymraeg/Saesneg (iaith)Dewiswch un o'r gwrthgyferbyniadau hyn a rhowch enghreifftiau o sut mae'n cael ei ddangos yn y ffilm.* Cymry/Saeson (pobl)
* fferm/maes y gad
* teulu/y fyddin
* y werin/pobl ag addysg
8 Dewiswch dri chymeriad o'r ffilm. Sut wyddon ni pa fath o bobl ydyn nhw? Meddyliwch am: llais, acen, gwisg, dialog, golwg, gweithredu, ymddangosiad, oedran - yn ogystal ag iaith ffilm megis camera, goleuo a golygu.
9 Edrychwch ar yr olygfa lle mae'r milwyr yn symud i fyny i'r ffrynt, yn y nos. Disgrifiwch yr argraff mae'r olygfa hon yn ei chreu. Yna, disgrifiwch y technegau ffilm a ddefnyddiwyd i greu'r argraff yma.
10 Edrychwch ar yr
olygfa gyntaf ar y fferm, gyda'r llythyr yn cyrraedd oddi wrth Eisteddfod
Pwllheli. Sut mae'r olygfa hon yn cyflwyno'r cymeriadau, y lleoliad a'u
sefyllfa? Yna, edrychwch ar yr olygfa olaf ar y fferm, pan fydd llythyr
arall yn cyrraedd. Beth mae'r gwneuthurydd ffilm wedi ei newid i greu argraff
gwbl wahanol?
Diolch i S4C am ganiatad i ddefnyddio'r lluniau llonydd.
Y lluniau © 1992 S4C
© Addysg y Cyfryngau
Cymru 2001