Termau ffilm
Term |
Saesneg |
Diffiniad |
Ystyr/effaith |
||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Fframio | framing | Maint y gwrthrych yn y llun | |||||
| saethiad llydan | wide/very long shot | Mae unrhyw berson yn ymddangos yn fach yn y llun | Y lleoliad sy’n bwysig | ||||
| saethiad pell | long shot | Corff cyfan, o’r pen i’r sawdl | Gallem ddechrau gweld pa fath o berson ydyw | ||||
| saethiad canolig | mid/medium shot | Hanner uchaf y corff | |||||
| saethiad agos canolig | medium closeup | O’r frest i’r pen | |||||
| saethiad agos | closeup | Pen ac ysgwyddau | Y cymeriad sy’n bwysig | ||||
| saethiad agos iawn | big closeup | Pen yn unig | Emosiynau cryf | ||||
| saethiad eithriadol agos | extreme closeup | Yr wyneb o’r llygaid i’r geg (neu’n nes) | Emosiynau cryf Cymeriad bygythiol |
||||
| Safle’r camera | camera position | Lle mae’r camera | |||||
| saethiad ongl isel | low angle shot | Saethiad lle mae’r camera yn isel ac yn edrych i fyny | Cymeriad pwerus/bygythiol | ||||
| saethiad ongl uchel | high angle shot | Mae’r camera yn uchel ac yn edrych i lawr | Cymeriad bach/gwan | ||||
| Symudiad camera | camera movement | ||||||
| camera llaw | handheld camera | Mae rhywun yn cario’r camera wrth ffilmio | Cyffro a/neu realiti | ||||
| cledru | tracking | Symud y camera ei hun tuag at/neu i ffwrdd /ar draws gwrthrych, neu i ddilyn gweithrediad | |||||
| tremio | pan | Troi’r camera i’r ochr | |||||
| gwyro | tilt | Troi’r camera i fyny neu i lawr | |||||
| cylchu | arc | Symud y camera mewn cylch o gwmpas y gwrthrych | |||||
| saethiad craen | crane shot | Yn defnyddio craen i symud y camera ar draws, neu uwchben, yr hyn sy’n digwydd | |||||
| Lens | |||||||
| lens/saethiad ongl llydan | wide-angle lens/shot | Mae lens ongl llydan yn cynnwys llawer o’r hyn sydd o flaen y camera. | Perspectif amlwg Rydym yn agos Mae llawer o le Cymeriad/lle sy’n od/doniol |
||||
| lens/saethiad teleffoto | telephoto lens/shot | Mae lens teleffoto yn cymryd dim ond rhan bach o’r hyn sydd o flaen y camera, fel edrych trwy delesgôp. | Perspectif ddim yn amlwg Rydym yn bell Mae’r lle’n fach Mae’r cymeriad yn teimlo’n gyfyngedig |
||||
| lens swm/closio | zoom | Lens sy’n amrywio o ongl llydan i deleffoto, fel bod y gwrthrych yn gallu ymddangos yn fwy neu’n llai heb i’r camera symud | |||||
| swmio allan/llacio | zoom out | Amrywio lens swm er mwyn pellhau o’r gwrthrych | |||||
| swmio mewn/chwyddu | zoom in | Amrywio lens swm er mwyn chwyddo’r gwrthrych | |||||
| Dyfnder ffocws | depth of focus | Faint o’r llun sydd mewn ffocws | |||||
| Ffocws dwfn | deep focus | Mae popeth yn y llun mewn ffocws | |||||
| Ffocws bas | shallow focus | Dim ond y gwrthrych sydd mewn ffocws | Cymeriad unig Cymeriad wedi ei ynysu o’r bobl o’i gwmpas |
||||
| Goleuo | lighting | ||||||
| goleuo cynnes | warm lighting | Mae’r lliwiau yn felyn, oren neu goch. | Cysurus/diogel Moethus Traddodiadol Hydref/machlud yr haul |
||||
| goleuo oer | cold lighting | Mae’r lliwiau’n las. | Tristwch/unigrywdd Modernrwydd/technoleg Gaeaf/nos/bore cynnar |
||||
| goleuo cywair isel | low-key lighting | Mae’r golau yn dod o’r ochr, mae’r cysgodion yn gryf ac mae’r cefndir fel arfer yn dywyll | Drama Perygl Nos |
||||
| goleuo cywair uchel | high-key lighting | Goleuo lle mae’r golau yn wastad ac yn llachar, heb gysgodion pendant. | Hapus/cadarnhaol Dydd |
||||
| golau ôl | backlight | Golau tu ôl i’r gwrthrych, yn creu ‘halo’ o’i gwmpas | Dirgelwch Harddwch Nos |
||||
| Golygu | editing | Y dechneg o roi saethiadau ffilm at ei gilydd. | |||||
| cyflymdra | pace | Pa mor gyflym mae’r golygu yn newid o un llun i’r llall | Golygu cyflym: • Cyffro • Pergyl • Bywiogrwydd Golygu araf: • Ymlacio • Tensiwn • Diflastod |
||||
| croes-dorri | cross-cutting | Torri rhwng dwy olygfa sy’n digwydd mewn llefydd gwahanol ar yr un pryd | |||||
| torri | cut | Lle mae un llun yn newid yn syth i’r un nesaf | Mae popeth yn y dilyniant yn digwydd mewn un cyfnod parhaol | ||||
| pylu allan | fade out | Lle mae’r llun yn toddi allan (fel arfer i sgrîn ddu) | |||||
| pylu mewn | fade in | Lle mae’r llun yn toddi mewn (fel arfer o sgrîn ddu) | Mae pylu allan ac wedyn pylu mewn yn dangos bod cyfnod o amser wedi mynd heibio | ||||
| toddi | dissolve | Lle mae llun yn toddi mewn i lun arall. | Toddi unwaith mewn dilyniant: • mae’r stori wedi symud ymlaen rhywfaint mewn amser a gofod. Cyfres o doddiadau: • Mae amser yn mynd heibio • Teimlad o gysur/ymlacio |
||||